CARAFANNAU I’W LLOGI

Carafannau Sefydlog 2 & 3 ystafell wely: Nodweddion a chyfleusterau

Ymlaciwch yn un o’n carafannau, adref oddi cartref. Ae gennym nifer fechan o garafannau sefydlog ar gael i’w llogi sy’n cynnig yr holl gysuron cartrefol y gallech ofyn amdanynt!

  • Mae carafán 3 ystafell wely yn cysgu hyd at 8 o bobl
    • 1 dwbl meistr; 2 twin; 1 gwely soffa sy’n tynnu allan yn y lolfa 
    • Ystafell gawod i’r teulu 
    • Tŷ bach en suite
  • Mae carafán 2 ystafell wely yn cysgu hyd at 6 o bobl
    • 1 Meistr; 1 twin; 1 gwely soffa sy’n tynnu allan yn y lolfa 
    • Ystafell gawod i’r teulu
  • Gwydr dwbl a gwres drwyddo draw
  • Tân nwy neu drydan
  • Ystafell gawod gyda tŷ bach
  • Teledu sgrin fllat a chwaraewr DVD
  • Microdon, tegell a thostiwr
  • Cyllyll a ffyrc a llestri
  • Parcio preifat
  • Nwy a Thrydan yn gynwysedig

Rydym yn gweithredu trefn lanhau llym ac yn sicrhau bod carafannau’n cael eu glanhau i’r safon uchaf ac yn unol â rheoliadau COVID-19. Er mwyn lleihau risgiau, nid ydym yn darparu dillad gwely, dewch âch duvets, gorchuddion, gobenyddion ac ati. Gallwn gyflenwi cadeiriau uchel a chotiau teithio fodd bynnag mae’r rhain yn gyfyngedig, rhowch wybod i ni wrth archebu os oes angen unrhyw rai o’r eitemau hyn arnoch. Nid ydym yn derbyn archebion grŵp gan rai dan 25 oed.

Sylwch, er ein bod yn safle caniatau anifeiliaid anwes, yn anffodus ni chaniateir anifeiliaid anwes yn ein carafannau llogi.

Amseroedd Cofrestru

Cyrraedd o 3yh ac ymdael erbyn 10.30yb

 

*Gall modelau amrywio i’r lluniau a ddangosir isod.

 

ARCHEBWCH EICH CARAFAN

Archebwch encil moethus yn ein parc gwyliau tawel gyda phopeth sydd ei angen arnoch ar gyfer amser ymlaciol.

Ffoniwch ni ar 01545 560288 neu defnyddiwch ein ffurflen gyswllt ar-lein:

wifi iconWiFi ar gael

cyCymraeg