TRAETHAU CYFAGOS

O eangderau o dywod i draethau diarffordd.

Mae Ceredigion yn enwog am ei traethau tywodlyd rhagorol, ac mae llawer ohonynt wedi ennill Gwobr fawreddog y Faner Las. Mae llawer o’r traethau yn anfasnachol ond fel arfer gallwch ddod o hyd i bysgod a sglodion a hufan iâ i gyfoethogi’ch diwrnod.

Roedd ein plant yn ddigon ffodus i gael eu gwyliau yma yn Brownhill a nawr mae’r wyrion yn medru ailadrodd y profiad...

Hilary & Gareth

Mwnt

MwntYn eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, mae Mwnt yn draeth diarffordd hyfryd a all fod yn brysur yn y tymor brig. Mae’r grisiau serth i lawr i’r traeth yn gwneud mynediad ychydig yn anodd felly nid yw’r traeth yma’n addas i bawb. Fodd bynnag, mae’r ciosg lluniaeth ar y brig yn hygyrch i bawb ac yn cynnig golygfeydd gwych dros y traeth.

Tresaith

TresaithMae Tresaith yn draeth gwych ar gyfer anturio ar lanw isel wrth i fynediad i draethau a rhaedrau eraill agor gyda’r dyfroedd cilio. Y peth gorau yw parcio ym mhen uchaf y pentref a cherdded i lawr y grisiau niferus i’r dafarn, caffi, siop a chyfleusterau ger y traeth.

Traeth arall Baner Las Ceredigion ydy Tresaith ac mae’n boblogaidd gyda theuluoedd drwy gydol yr haf.

Llangrannog

llangrannog beachMae’n rhaid mai Llangrannog yw un o’r traethau sydd â’r nifer mwyaf o ffotograffau ar yr arfordir hwn gyda’r pentref bychan wedi’u nythu yn y bryniau o amgylch y traeth tywodlyd. Mae’n cynnig nofio diogel gyda’r RNLI yn cadw llygad trwy gydol yr haf. Mae tafarndai a chaffis, yn ogystal â hufen iâ blasus i gael yno.

Nid oes llawer o le i barcio lawr yn y pentref, felly cynghorwn iddych i ddefnyddio’r parcio am ddim ym mhen uchaf y pentref sy’n cael ei wasanaethu gan fws gwennol yn ystod misoedd yr haf.

Traethgwyn

Traethgwyn, New QuayMae Traethgwyn yn daeth hir tywodlyd ychydig y tu allan i Gei Newydd. Fel un o’r draethau sydd heb fynediad cyfyngiedig i gŵn yn ystod misoedd yr haf, mae’n hoff fan cerdded i nifer.

Mae Cae Charlie, sy’n eiddo i’r Barc wedi’i leoli uwchben y traeth hwn ac mae’n lle delfrydol i barcio’ch car ar gyfer mynediad cyflym i’r traeth sydd ar gael i’n holl westion. Mae hefyd yn lle gwych ar gyfer lleoliad priodas pebyll felly cysylltwch â ni os hoffech ragor o fanylion.

cyCymraeg