TAI MODUR, CARAFANNAU SYMUDOL & PEBYLL

Carafannau Symudol a Tai Modur

Mae ein holl pitshau yn “super pitches,” wedi’u wasanaethu’n llawn ac ar llawr galed. Mae’r ardal carafannau symudol wedi’i lleoli ym mhen draw ein parc, ac rydym yn argymell eich bod yn edrych ar ein map i archebu pitsh cyn cyrraedd.cliciwch yma i lawrlwytho map o’r parcRydym hefyd yn darparu bloc toiledau a chawodydd o fewn yr un ardal, yn ogystal â chyfleuster gwaredu gwastraff a chyfleuster golchi llestri.

Ar gyfer arosiadau byr pan nad oes angen adlen arnoch, mae gennym pitshau tarmac wedi’i wasanaethu’n llawn.

Ar hyn o bryd mae gennym argaeledd arhosiad byr cynfyngedig ar ein pitshau caled glaswellt cymysg wedi’u wasanaethu’n llawn.

Mae ein pitshau tymhyrol bellach yn llawn ar gyfer tymor 2023.

 

Faniau Gwersylla a Phebyll Trelar

Mae ein maes gwersylla wedi’i leoli ar res isaf y maes carafannau sefydlog, ger y pwll nofio dan do a’r clwb. Mae’r holl pitshau yn pitshau porfa wedi’u cynnal a’u chadw’n dda gyda chysylltiadau trydan. Sylwch mai dim ond nifer fach o bitshau sydd gennym ar gael felly gall rhain lenwi’n gyflym yn ystod amseroedd prysurach. Mae’r bloc cawodydd a’r cyfleusterau golchi llestri wedi’u lleoli yn y maes carafannau symudol, sy’n daith gerdded fer i ffwrdd o’r pitshau yma.

Archebwch eich Pitsh

Gallwch archebu pitsh trwy swyddfa’r maes.

Ffoniwch ni ar 01545 560288 neu defnyddiwch ein ffurflen gyswllt ar-lein.

wifi iconWiFi ar gael

cyCymraeg