GWEITHGAREDDAU LLEOL

Mae digon i’w wneud yn ein hardal ni.

Mae ymweliad â Cheredigion yn cynnig cymaint gyda’i draethau hyfryd Baner Las sy’n addas i deuluoedd, llwybrau arfordirol trawiadol i’r rhai sy’n frwd dros yr awyr agored ac archwilio’r trefi, caffis, cestyll a siopau.  

Rydym wedi cael carafan yn Brownhill ers saith mlynedd bellach ac yn ymweld ar gyfer gwyliau a’r rhan fwyaf o benwythnosau trwy gydol y tymor gan ei fod yn lle perffaith i ailwefru’r batris ar ôl wythnos llawn straen. Gydag ymddeoliad nawr ar y gorwel, rydym yn edrcyh ymlaen at allu treulio hyd yn oed mwy o amser ym maes carafanau Brownhill a mwynhau’r rhan hardd a heddychlon hon o’r wlad.
Lesley

Bywyd Gwyllt

Dolphins in Cardigan BayBae Ceredion yw un o’r lleoedd gorau o amgylch y DU i weld dolffiniaid. Mae teithiau cychod i weld dolffiniaid a bywyd gwyllt ar gael yn rheolaidd lawr yng Nghei Newydd. Mae rhagor o wybodaeth am y dolffiniaid ar gael ar wefan Croeso Cymru sydd ar gael yma

Mae Canolfan Bywyd Gwyllt Morol Bae Ceredigion yng Ngei Newydd yn lle gwych i ymweld er mwyn dysgu mwy am fywyd gwyllt y môr ac mae ganddi hefyd lawer o ddigwyddiadau yn rhedeg trwy gydol y flwyddyn.

Lle arall ‘rhaid ei weld’ i selogion bywyd gwyllt yw Coedwig Bwlch Nant yr Arian ychydig y tu allan i Aberystwyth gyda bwydo dyddiol (2yh yn y gaeaf a 3yh yn yr haf) a all denu hyd at 150 o Farcutiaid Coch. Mae Llwybr y Barcud (llwybr mynediad hawdd o amgylch y llyn) ac mae’r caffi yn cynnig golygfeydd gwych o’r digwyddiad. Mae yna hefyd gyddfan adar yn edrych dros y man bwydo. Mae’r staff a gwirfoddolwyr RSPB Cymru ar y safle bron bob dydd drwy gydol yr haf i ateb cwestiynau am farcutiaid coch a bwywd gwyllt arall ym Mwlch Nant yr Arian. Ar gyfer rheina sy’n hoff o adar yn penodol, mae Canolfan Gweilch a RSPB Ynyshir yn yr un ardal. 

Mae Canolfan Bywyd Gwyllt Cymru hefyd wedi’i lleoli yng Nghilgerran ger Aberteifi, sy’n wych i oedolion a phlant o bob oed, gydag ardaloedd chwarae antur, Llwybrau Natur a gweithgareddau chwarae dan do.

Gweithgareddau

CanoeingGan ei bod yn ardal arfordirol, mae yna digon i’w wneud allan ar y dŵr yng Nghei Newydd i gynnwys:

- Canŵio
- Syrffio
- Caiacio
- nofio (mae gan llawer o draethau achubwyr bywyd)
- Syrffio
- hwylfyrddio
- hwylio
- padlfyrddio wrth sefyll

Os nad ydych yn hoff o ddŵr, mae yna nifer o lwybrau beicio mynydd a pharc sgiliau yng Nghoedwig Bwlch Nant yr Arian, addas ar gyfer alluoedd amrywiol.

Cerdded
Ceredigion coastal pathMae Ceredigion yn cynnig cyfle gwych i gerddwyr grwydro’r ardal ar droed. Mae’r gorau o’r teithiau cerdded ar hyd y llwybr arfordirol gwych sy’n rhedeg o amgylch Arfordir Treftadaeth Ceredigion.

Gall y daith fod yn heriol ar brydiau ac mae angen i chi ddewis llwybr cywir ar gyfer eich allu, gan nad yw rhai o’r teithiau cerdded arfordirol yn ddelfrydol ar gyfer teuluoedd. Fodd bynnag, mae digon o lenyddiaeth ar gael i’ch helpu i wneud y dewisiadau gorau.

Archwilio

fishguardMae digon i’w wneud gerllaw i gadw pawb yn brysur o eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, megis Llanerchaeron ger Aberaeron neu ymhellach i ffwrdd yn Dinefwr ger Llandeilo. Yn ogystal, mae castell Aberteifi a Chastell Newydd Emlyn yn boblogaidd oherwydd ei drefi prydferth, neu mae olygfeydd hardd arfordirol neu afonau fel Rhaedr Cenarth. Os ydych chi eisiau unrhyw syniadau, mae staff ein derbynfa yn hapus i helpu pryd bynnag.

Mae gan wefan Croeso Cymru bopeth sydd angen i chi ei ddarllen cyn i chi gyrraedd yma.

cyCymraeg